P-05-692 – Adeiladu Cofeb Mamieithoedd Rhyngwladol ym Mae Caerdydd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mohammed Sarul Islam ar ôl casglu 16 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gymell Llywodraeth Cymru i adeiladu cofeb Ieithoedd Rhyngwladol ym Mae Caerdydd ar gyfer pawb sy'n caru mamieithoedd ledled y byd.
Gwybodaeth ychwanegol
Cafodd plac ei osod gan Arglwydd Faer Caerdydd yn 2012 ym Mharc Grange Moor, Bae Caerdydd. Ond o ganlyniad i ddiffyg cyllid ni chafodd ei hadeiladu.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gorllewin Caerdydd
· Canol De Cymru